Prawf cemeg

Description

Cemeg Flashcards on Prawf cemeg, created by dand24 on 19/04/2013.
dand24
Flashcards by dand24, updated more than 1 year ago
dand24
Created by dand24 about 11 years ago
591
1

Resource summary

Question Answer
Beth yw'r 3 cam o buro dwr? -gwaddodiad -hidliad -clorineiddiad
Beth yw ystyr hidrin? Medru taro/gwasgu mewn i siap heb ei dorri
Beth yw ystyr hydwyth? Medru tynnu i mewn i wifrau
Beth yw ystyr hyblyg? Mae'n hawdd i blygu
Pam mae metelau yn hidrin, hydwyth a hyblyg? oherwydd pan roddir grym ar y metel ma'r haenau o ionau positif yn llithro dros eu gilydd
Pam mae metelau yn dargludyddion trydanol? oherwydd mae ganddynt for o electronau dadleoledig sy'n rhydd i symud
Pam mae gan fetelau ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau uchel? oherwydd mae angen llawer o egni i dorri'r bondiau metelig cryf
disgrifiwch bondio ionig? y bond ionig yw'r atyniad electrostatig rhwng yr ionau positif a negatif
pam mae gan cyfansoddyn ionig ymdoddbwynt uchel? oherwydd mae angen llawer o egni i wahanu'r ionau positif a negatif
cyfansoddyn ionig ar ffurf solid? ddim yn dargludo trydan oherwydd nid oes ionau yn rhydd i symud
cyfansoddyn ionig ar ffurf hylif? yn dargludo trydan am for yr ionau yn rhydd i symud
pam mae cyfansoddion ionig yn galed? anodd torri'r atyniadau electrostatig cryf rhwng yr ionau gyda gwefr dirgroes
pam mae cyfansoddion ionig yn frau? pan roddir grym ar y solid, mae dwy haen yn llithro dros eu gilydd sy'n achosi i'r ionau o wefr tebyg i fod nesa at eu gilydd, felly fe fydden nhw'n gwrthyrru'r haenau ar wahan
pam mae cyfansoddion ionig yn hydawdd yn dwr? oherwydd mae'r atyniadau rhwng yr ionau a'r moleciwlau dwr yn gryfach na'r atyniadau rhwng y moleciwlau dwr a'i gilydd
priodweddau cyfansoddion cofalent? -ymdoddbwynt / berwbwynt isel -ddim yn dargludo trydan -llai hydawdd/anhydawdd mewn dwr
engreifftiau o adeileddau cofalent enfawr? Deiamwnt Graffit Nanotiwbiau
priodweddau deiamwnt? -4 bond c-c -ymdoddbwynt/berwbwynt uchel -ynysydd -caled iawn -anhydawdd
priodweddau graffit? -dargludydd (1 electron dadleoledig) -ymdoddbwynt/berwbwynt uchel -meddal ac yn frau -anhydawdd mewn dwr
priodweddau nanotiwbiau? -dargludydd/lled dargludyddion trydanol -cryf iawn -anhydawdd mewn dwr -ymdoddbwynt/berwbwynt uchel -dwysedd isel
paent thermocromig newid lliw wrth i'r tymheredd newid e.e caniau cwrw, stribed mesur tymheredd
paent ffotocromig newid lliw wrth i arddwysedd y golau newid e.e lens spectol
Aloion sy'n cofio siap gallu adennill ei siap gwreiddiol wrth gael ei wresogi e.e stent meddygol, fframau spectol
Polymerau cofio siap gallu adennill ei siap gwreiddiol wrth gael ei wresogi e.e pwythau meddygol bioddiraddwy
Geliau polymer gallu amsugno lan i 1000 gwaith ei gyfaint e.e cewyn babi, polymer traws cysylltiedig
beth yw isotop? atomau o'r un elfen gyda gwahanol nifer o niwtronau yn y niwclews
pa liw fflam mae sodiwm, lithiwm a photasiwm yn llosgi gyda? Lithiwm = coch Sodiwm = melyn/oren Potasiwm = Lelog
Adwaith metelau grwp 1 gydag ocsigen? (4,1,2) e.e 4Na + O2 ----2NaO
Adweithiau metelau grwp 1 gyda dwr? (2,2,2,1) e.e 2Li + 2H20 -----2LiOH + H2
Adweithiau metelau grwp 1 gyda halogenau? (2,1,2) e.e 2Na + Cl2 ----- 2NaCl (ffurfio powdr gwyn / halid)
Adwaith gyda haearn a halogen? Haearn yn gloywi wrth adweithio, digwydd y cyflymaf gyda chlorin ond yn arafu wrth fynd i lawr y grwp (gwyntyllydd - oherwydd mygdarth yn wenwynig)
Pa lliw gwaddod mae; Clorid,Bromid,Iodid yn ffurfio? clorid = gwaddod gwyn bromid = gwaddod hufen iodid = gwaddod melyn
beth yw dwr caled? dwr sy'n cynnwys mineralau fel Ca2+, Mg2+, HCO3- wedi cael nhw wrth hidlo trwy pridd
sut allwch chi gael gwared ar galedwch dwr caled dros dro? berwi fe
sut allwch chi gael gwared ar galedwch dwr caled parhaol? berwi ddim yn cael gwared arno fe, fe fydd yn rhaid cyfnewid yr ionau e.e Ca2+, Na+
Show full summary Hide full summary

Similar

pam mae olew mor bwysig
JohnLewis
cemeg 1 bl.10
Elan Parry
Cemeg 3
dand24
Colofyn Ffracsiynu
JohnLewis
Cemeg II
dand24
Cyfraddau adwaith
dand24
Cemeg
JohnLewis
cemeg organig
JohnLewis
C4 - Formulae to learn
Tech Wilkinson
History- Medicine through time key figures
gemma.bell
Final Exam
Ms. Wong-Lee