Cerddi

Description

Note on Cerddi, created by sionedjs on 24/05/2014.
sionedjs
Note by sionedjs, updated more than 1 year ago
sionedjs
Created by sionedjs almost 10 years ago
456
2

Resource summary

Page 1

Natur a Dynoliaeth Sonia’r gerdd am natur a dynoliaeth yn cwrdd. Disgrifir ymateb dyn i natur “barlyswyd ennyd” ac ymateb natur i ddynoliaeth “syfrdan y safodd yntau”. Mae natur yn denu’r bardd “gwahodd tua’r mynydd”, fel rhywbeth prydferth a phrin “digwyddodd, darfu, megis seren wib” Cerdd Rydd, Soned 14 llinell odl bob yn ail rhythm pendant o pum carfan bob llinell 10 sillaf y llinell volta wythawd a chwechawd   Mae’r volta’n galluogi safbwynt y llwynog i gael ei ddangos, a mae'r rhythm cyson yn helpu’r gerdd lifo. Pwrpas soned yw cyfleu profiad, sef y profiad o gwrdd â llwynog. Rhaid i’r bardd dethol geiriau ofalus gan ei fod wedi cyfyngu i 14 llinell   Cynnwys Mae “Y Llwynog” gan R Williams Parry’n sôn am brofiad dyn yn cwrdd â llwynog. Er bod y bardd yn ddyn crefyddol, gyda “eglwysi’r llethrau’n gwahodd tua’r llan”, mae’n cael ei ddenu i ffwrdd o ddynoliaeth ac at natur gan “anhreuliedig haul Gorffennaf gwych” “canllath o gopa’r mynydd”, gwêl y bardd olygfa annisgwyl, a fe “barlyswyd”. Mae’r dynion wedi rhyfeddu gan “ryfeddod prin” y llwynog. Yn y folta, sonia am ymateb y llwynog “syfrdan y safodd yntau”. Adlewyrchir ymateb y dynion gan y llwynog. Ceir uchafbwynt yn y clo wrth i’r llwynog ddiflannu “dros y grib”. Mae’r gerdd yn dod i uchafbwynt yn y cwpled clo, “digwyddodd, darfu, megis seren wib” Mae’r gerdd yn cloi gan grynhoi’r profiad “digwyddodd, darfu, megis seren wib”. Roedd yn brofiad sydyn, bythgofiadwy. Gwelir mai’r profiadau gorau yw’r rhai byr a rhaid gwerthfawrogi natur gan iddo ddiflannu’n sydyn.      Arddull  trosiad: ‘rhyfeddod prin’ – byth yn cyfeirio at y llwynog, ei ddisgrifio yn y 14 llinell, arbennig, y syndod o’i weld, gymaint o agweddau gwahanol iddo  cymhariaeth: ‘digwyddodd, darfu, megis seren wib’ – profiad sydyn, arbennig, prin, bythgofiadwy, lwcus i’w weld, yn hardd, yn chwim  cyflythrennu: ’ar ddiarwybod droed a distaw duth’ – ‘d’ fel sŵn traed ysgafn y llwynog, gofalus, ysgafndroed, chwim, ddim am gael ei weld, prin, sŵn apelgar i'r darllenydd  ansoddeiriau: ‘anhreuliedig haul’ – ansoddeiriau cyfoethog, blodeuog, hardd, cyfleu arbenigrwydd y profiad, diwrnod braf, methu peidio mynd i’r mynydd, darlun prydferth, hapus   Neges Profiadau byr yw’r rhai gorau, a rhaid gwerthfawrogi bob profiad. Mae’n bwysig mwynhau rhyfeddod moment prin, gan fod popeth dros dro, gan gynnwys ni fel pobl. Ddylid gwerthfawrogi creaduriaid natur, gan eu bod yn diflannu’n gyflym – “digwyddodd, darfu, megis seren wib”

Y Llwynog

Show full summary Hide full summary

Similar

Welsh Literature Quotations
Talia Campbell
Dyfyniadau Ysgolheigaidd Branwen Ferch Llyr
Rhodri Davies
Opinion Phrases
nadiaa
China - Uned 1 - Cefndir Ffisegol China
Rhodri Davies
Branwen Ferch Llyr - Y Plot
Rhodri Davies
Martha
Rhodri Davies
Gwyliau - Holidays
nadiaa
Adjectives
nadiaa
Welsh
dracoco13
Idiomau
A Hitchcock